Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Offerynnau Statudol Gydag Adroddiadau Clir

 

28 Ebrill 2014

 

CLA393 -  Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol a Chytundebau Gwasanaethau Deintyddol Personol) (Cymru) (Diwygio) 2014

Gweithdrefn:
  Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn, a fydd yn dod i rym o 1 Mai 2014, yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol  (Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Cymru) 2008 a Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cytundebau Gwasanaethau Deintyddol Personol) (Cymru) 2006.  Mae'r diwygiadau yn darparu, os cyfeirir claf at gontractwr arbenigol am wasanaethau gorfodol uwch, y bydd yr ad-daliad am unedau o weithgarwch deintyddol yn cael ei rannu rhwng y deintydd ar y 'stryd fawr' a'r contractwr arbenigol.  Nid yw ad-daliadau yn cael eu rhannu ar hyn o bryd – mae'r deintydd a'r contractwr arbenigol yn cael ad-daliad am y nifer lawn o unedau o weithgarwch deintyddol.

CLA394 - Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (Corff Cyfrifwyr Ewropeaidd Cymeradwy) 2014

Gweithdrefn:  Negyddol

Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu bod y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth ("CIPFA") a Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli ("CIMA") yn gyrff cyfrifwyr Ewropeaidd cymeradwy, ac felly maent o fewn y diffiniad o 'gorff cyfrifyddu' at ddibenion adran 19 (9) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 ("Deddf 2013")

 

 

 

 

 

CLA395 -  Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014

 

Gweithdrefn:  Negyddol

 

Mae'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth yng Nghymru ar gyfer gweinyddu a gorfodi Rheoliad y Cyngor Rhif 1099/2009 ar ddiogelu anifeiliaid adeg eu lladd. Yn ogystal, mae'r Rheoliadau hefyd yn dirymu Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Cigydda neu Ladd) 1995 (O.S. 1995/371) a'r offerynnau diwygio cysylltiedig i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.